Page guide: Home > About MSOR > What the Network can do for you [Cymraeg]What the Network can do for you Mae’r Rhwydwaith Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithrediadol (un o’r 24 Canolfan Bynciol yn yr Academi Addysg Uwch) yn cynorthwyo dysgu ac addysgu mewn Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithrediadol, a disgyblaethau eraill lle addysgir elfennau o’r pynciau hyn. Rydym yn gweithio gydag academyddion, adrannau, cyrff proffesiynol, cyflogwyr a myfyrwyr i ddatblygu a rhannu arfer ragorol a fydd yn gwella’r profiad dysgu.
Yn fwy penodol, anelwn at:
• Fod yn brif ffynhonnell o wybodaeth a chyngor ar ddysgu, addysgu ac asesu Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithrediadol mewn addysg uwch;
• Hyrwyddo a chynorthwyo’r gwaith o ddarganfod, datblygu a rhannu arfer arloesol mewn Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithrediadol;
• Cynorthwyo gweithgareddau unigolion ac adrannau sy’n mynd i’r afael â datblygu cwricwla ac arfer addysgu;
• Darparu, annog a chefnogi datblygiad proffesiynol cychwynnol a pharhaus i’r holl staff sy’n gysylltiedig ag addysgu a dysgu Mathemateg, Ystadegau ac Ymchwil Weithrediadol;
• Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o fathemateg a’i hyrwyddo fel dewis deniadol i’w astudio yn y brifysgol;
• Ymgysylltu â’r agenda wleidyddol genedlaethol mewn Addysg Uwch er mwyn sicrhau bod y Gymuned Mathemateg, Ystadegau neu Ymchwil Weithrediadol yn cyfrannu at ddatblygu polisïau a’i bod yn ymwybodol o faterion perthnasol.
Cymorth Adrannol Gwybodaeth ac Adnoddau
Ymgysylltiad Cymunedol
Brocera a Chydweithio
Datblygiad Proffesiynol a Chydnabyddiaeth
Polisi a Datblygu Pwnc